Become a Friend Against Scams

Empowering people to take a stand against scams

Mae sgamiau’n effeithio ar fywydau miliynau o bobl ledled y DU. Yn aml, mae pobl sy’n cael eu twyllo gan sgamiau’n profi unigrwydd, cywilydd ac arwahanrwydd cymdeithasol.

Mae Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau yn fenter gan Dîm Sgamiau Safonau Masnach Cenedlaethol (NTS), sy’n anelu at ddiogelu a rhwystro pobl rhag dioddef oherwydd sgamiau trwy rymuso cymunedau i "Gymryd Cam Yn Erbyn Sgamiau".

Crëwyd Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau i fynd i’r afael â diffyg ymwybyddiaeth sgamiau trwy ddarparu gwybodaeth am sgamiau a’r rhai sy’n cael eu twyllo ganddynt. Mae’r wybodaeth hwn yn galluogi cymunedau a sefydliadau i ddeall sgamiau, trafod sgamiau a throsglwyddo negeseuon ynghylch atal a diogelu rhag sgamiau

Mae Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau yn annog cymunedau a sefydliadau i weithredu’r wybodaeth a ddysgwyd.

 

Gall unrhyw un ymuno â Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau a gwneud gwahaniaeth yn eu ffordd eu hunain.

Sut i Ymglymu?

Darganfod sesiwn

Os hoffech ddod yn Ffrind yn Erbyn Sgamiau, gallwch gwblhau’r sesiwn ymwybyddiaeth ar-lein. Fel arall, ymunwch ag un o’n sesiynau ymwybyddiaeth wyneb yn wyneb.

Chwilio